Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 12 Ionawr 2017
Amser: 09.47 -
14.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3952
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mark Reckless AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Siân Gwenllian AC Vikki Howells AC Huw Irranca-Davies AC David Melding AC Jenny Rathbone AC Simon Thomas AC |
Tystion: |
Dai Davies, Hybu Cig Cymru Stephen James, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru Arfon Williams, RSBP Adrian Barsby, Cynghrair Twristiaeth Cymru Angela Charlton, Y Cerddwyr Nick Fenwick, Undeb Amaethwyr Cymru Tony Davies, Fairness for the Uplands Martin Bishop, Confor Frances Winder, Woodlands Trust Dr Tim Peppin, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Y Cynghorydd, Jamie Adams, Cyngor Sir Penfro Goronwy Edwards Dafydd Gruffydd, Business Manager for LEADER in Anglesey and Gwynedd |
Staff y Pwyllgor: |
Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 1MB) Gweld fel HTML (451KB)
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganodd Huw Irranca-Davies ei fod yn Is-lywydd Cerddwyr Cymru.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y ffyrdd y gall arian a rheoleiddio gyfrannu at gefnogi busnesau amaethyddol a chynnal bioamrywiaeth.
Cytunodd Hybu Cig Cymru i ddarparu gwybodaeth bellach am y ffyrdd y maent yn hyrwyddo cynnyrch cig o ddefaid llai yr ucheldir.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y ffyrdd y mae cefnogaeth ar gyfer busnesau amaethyddol a gwledig yn cyfrannu at dwristiaeth yng Nghymru. Trafodwyd hefyd faterion yn ymwneud â mynediad i gefn gwlad a chytunodd Cerddwyr Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth ar lefel ddymunol o fynediad i gefn gwlad.
Nododd yr Aelodau y papurau.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y cyfleoedd a'r risgiau i ffermydd yr ucheldir, ffermio yng Nghymru, coedwigaeth fasnachol a'r coetiroedd pe byddai cefnogaeth ariannol ar gyfer amaethyddiaeth yn newid ar ôl 2019.
Cytunodd Confor i ddarparu rhagor o wybodaeth am gyflogaeth yn y diwydiant coedwigaeth.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am y ffyrdd y gall cyllid gwledig gynnal cymunedau ac ysgogi arloesedd busnes.
Derbyniwyd y cynnig.